
Wrth fynd ati i lunio Astudiaeth Ddichonolrwydd wreiddiol ar gyfer SALT Cymru, un o’r tasgau cyntaf oedd diffinio’r technolegau hynny sy’n cael eu hystyried i fod yn perthyn i SALT (Technolegau Iaith a Lleferydd), gan fod peth anghysondeb yn bodoli yn y maes.
Dyma felly yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y diffiniad o SALT a arddelir gan SALT Cymru:
- Technoleg lleferydd
(adnabod lleferydd,adnabod siaradwr, technegau testun-i-leferydd,
codio a gwella lleferydd, prosesu lleferydd amlieithog) - Mewnbwn iaith ysgrifenedig
(OCR – adnabod nodau’n optegol, adnabod llawysgrifen) - Dadansoddi, deall a chynhyrchu iaith
(gramadeg, semanteg, parsio, disgwrs a deialog) - Prosesu dogfennau
(echdynnu termau a thestun, dehongli, crynhoi) - Cyfieithu peirianyddol
(gan gynnwys cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, adalw gwybodaeth amlieithog) - Amlfoddolrwydd
(adnabod ystumiau a symud gwynebau, delweddu data testun) - Adnoddau iaith
(corpora llafar ac ysgrifenedig, lecsiconau, terminoleg) - Gwerthuso
(gwerthuso’r cyfan uchod)
Mae’r diffiniad hwn yn dilyn y Survey of the State of the Art.
Cliciwch yma i weld enghreifftiau o ddefnydd cyffredin o SALT.




