Dyma bortffolio o waith yr Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor.
Gallwch neidio’n syth i gategori pennodol drwy glicio ar un o’r dolenni yn y mynegai isod, neu sgrolio i lawr er mwyn darllen y cyfan. Gweler y dudalen Adnoddau Ymchwil yr Uned Technolegau Iaith am adnoddau ymchwil yr Uned.
Mynegai
Enwau Lleoedd
Gemau Iaith
Geiriaduron Cyffredinol
Geiriaduron Termau
Gwirio Testun
Gwersi Iaith
Hygyrchedd
Testun i Leferydd
Enwau Lleoedd
Enwau Cymru – Angen gwybod a oes enw Cymraeg ar gyfer enw lle Saesneg (neu’r gwrthwyneb)? Dyma’r wefan i chi. Mae’n rhoi plwyf, sir draddodiadol ac awdurdod unedol y lle dan sylw, yn ogystal â darparu ffeil sain gydag ynganiad cywir rhai o’r enwau mwyaf amlwg. Mae hefyd yn nodi lleoliad yr enw lle ar fap, rhywbeth sy’n ddefnyddiol iawn pan fod angen gwahaniaethu rhwng y tri Newport sy’n bodoli yng Nghymru wrth gyfieithu, er enghraifft!
Archif Melville Richards - cronfa ddata o ffurfiau hanesyddol enwau lleoedd Cymru, wedi’i fwriadu ar gyfer ymchwil ysgolheigaidd i ystyr a tharddiad enwau lleoedd.
Gemau Iaith
Ieithgi - 6 o gemau iaith Cymraeg ar gyfer gwefan y BBC. Mae’r rhain wedi cael eu cynllunio ar gyfer siaradwyr Cymraeg rhugl.
RaW Cymru -Detholiad o gemau iaith Cymraeg syml ar gyfer gwefan y BBC sydd wedi’u hanelu at ddefnyddwyr sydd â llai o hyder yn eu Cymraeg. (Gemau rhif 1, 3, 5 a 7 yn unig).
Geiriaduron Cyffredinol
Cysgair – Cysgair yw’r geiriadur cyffredinol Cymraeg/Saesneg sy’n rhan o Cysgeir, sef y casgliad o eiriaduron a geir ym mhecyn Cysgliad ar gyfer cyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows. Wrth chwilio, mae’n ddigon clyfar i ddangos y cofnod perthnasol hyd yn oed os yw’r hyn yr ydych chi’n ei roi yn y blwch chwilio yn air wedi’i dreiglo (e.e. ‘redeg’), yn ffurf ferfol (e.e. ‘rhedodd’), neu yn ffurf luosog (fel ‘rhedwyr’).
Geiriadur Learn Welsh – Geiriadur i ddysgwyr wedi’i greu ar gyfer gwefan y BBC. Mae’n rhannu nifer o’r un nodweddion â geiriadur Cysgeir, uchod.
Lexicelt - Geiriadur a Llyfr Ymadroddion ar-lein Cymraeg/Gwyddeleg. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys cyflwyniad i ramadeg y ddwy iaith, a ffeiliau sain o siaradwyr brodorol i gyd-fynd â’r testun, a hynny ar gyfer y gwahanol dafodieithoedd.
Geiriaduron Termau
Porth Termau – gwefan sy’n rhoi cynnwys geiriaduron termau’r Uned Technolegau Iaith ar-lein fel bod modd eu chwilio’n gyflym ac yn hwylus gan ddefnyddio un blwch chwilio. Mae’n ddigon clyfar i ddangos y cofnod perthnasol hyd yn oed os yw’r hyn yr ydych chi’n ei roi yn y blwch chwilio yn air wedi’i dreiglo (e.e. ‘redeg’), yn ffurf ferfol (e.e. ‘rhedodd’), neu yn ffurf luosog (fel ‘rhedwyr’).
Cronfa Genedlaethol o Dermau – (ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg) Gwefan ag arni nifer o eiriaduron termau a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Y Termiadur – holl gynnwys geiriadur termau cwricwlwm addysg Cymru ar un wefan hawdd i’w chwilio. Mae’r geiriadur hwn hefyd ar gael ar CD, fel rhaglen ar gyfer ffonau symudol ac ar ffurf cyfrol bapur draddodiadol.
Gwersi Iaith
Cymarfer CS – Cyfres o wersi gloywi iaith Cymraeg ar-lein sy’n canolbwyntio ar Gymraeg ffurfiol ysgrifenedig. Ceir hefyd brofion sy’n eich marcio’n awtomatig i gyd-fynd â’r gwersi. Datblygwyd Cymarfer CS ar gyfer y Cynllun Sabothol.
Gwirio Testun
Cysill – gwirydd sillafu a gramadeg soffistigedig sy’n gwneud mwy na dim ond cywiro camsillafu gan ei fod yn gallu adnabod gwallau gramadegol fel camdreiglo a chynnig awgrymiadau ar sut i’w cywiro. Mae hefyd yn cynnwys thesawrws hynod o ddefnyddiol a nodwedd i wirio rhediadau berfol. Mae Cysill yn rhan o becyn Cysgliad ar gyfer cyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows.
Cysill Ar-lein – fersiwn ar-lein, rhad ac am ddim o Cysill (gweler uchod), ond ar ffurf gwefan y gallwch ei chyrchu o unrhyw fan ar unrhyw gyfrifiadur sy’n rhedeg porwr modern.
Gwirydd Sillafu Microsoft Word – yr Uned Technolegau Iaith sy’n gyfrifol am y pecyn gwirio sillafu Cymraeg y mae Microsoft yn ei ddarparu am ddim i ddefnyddwyr Microsoft Word. Gallwch lwytho’r pecyn i lawr yma. Ar ôl ei osod a dewis Cymraeg fel iaith y ddogfen, bydd geiriau nad ydynt yn cael eu hadnabod fel geiriau Cymraeg dilys yn cael eu tanlinellu â llinell goch donnog. O dde-glicio ar y geiriau hynny caiff cywiriadau posib eu hawgrymu.
MySpell - Gwirydd sillafu cod agored y mae modd ei ddefnyddio gyda rhaglenni cod agored poblogaidd fel OpenOffice.org a Firefox.
Hygyrchedd
EdGair - Prosesydd geiriau Cymraeg syml ar gyfer defnyddwyr sydd â dyslecsia. Fe’i datblygwyd ar gyfer Dyslecsia Cymru (sy’n gyfrifol am ei ddosbarthu). Mae’n cynnwys llais Cymraeg yr Uned Technolegau Iaith er mwyn ynganu geiriau fel y cânt eu teipio.
(Gweler hefyd yr adrannau ‘Adnabod Lleferydd’ a ‘Testun i Leferydd’ am fwy sy’n berthnasol i Hygyrchedd)
Testun i Leferydd
Llais Cymraeg Synthetig WISPR – Datblygwyd llais Cymraeg synthetig gan yr Uned Technolegau Iaith fel rhan o broject WISPR (Welsh and Irish Speech Processing Resources). Cafodd adnoddau datblygu’r project eu rhyddhau dan drwydded agored BSD. Mae hyn wedi galluogi cwmnïau masnachol fel Bitlips i adeiladu ar y gwaith a chynhyrchu lleisiau Cymraeg masnachol gwell yn seiliedig ar y data a’r ffeiliau sain o broject WISPR. Gallwch wrando ar lais Bitlips, sef ‘Owen’, drwy glicio ar y botwm ‘Gwrando’ ar frig yr erthygl hon.




















