Technoleg Iaith a Lleferydd || Speech and Language Technology
22/05/2013
Translate to other Languages

Cyrff Safoni sy’n berthnasol i SALT

Gwrando gyda Readspeaker

Mae nifer o gyrff yn cyhoeddi safonau rhyngwladol sy’n berthnasol i SALT. Mae’r rhain yn cynnwys:

ISO
ISO (International Organization for Standardization) yw’r prif gorff rhyngwladol ar gyfer cyhoeddi safonau rhyngwladol. Mae nhw’n safoni ar gyfer amrediad eang o feysydd, o fformatau amser a chodau enwau gwledydd i feintiau safonol ar gyfer amlwythi nwyddau. Mae’r gwaith safoni wedi’i rannu’n bwyllgorau technegol. Y rhai mwyaf perthnasol ar gyfer SALT yw TC 37 (Terminology and other language and content resources) a TC46 (Information and documentation). O dro i dro, bydd ISO hefyd yn mabwysiadu safonau sydd wedi’i datblygu gan gyrff eraill (gweler isod). Gan fod ISO yn sefydliad sy’n annibynnol o unrhyw lywodraeth neu gwmni mae’n gorfod codi tâl am fynediad at ei safonau er mwyn ariannu’r gwaith safoni.

LISA
Mae LISA (Localization Industry Standards Association) yn gymdeithas sy’n datblygu safonau ar gyfer y broses o leoleiddio a globaleiddio. Mae aelodau LISA yn cynnwys cwmnïau fel IBM, Adobe ac SDL. Mae LISA wedi datblygu nifer o safonau pwysig, gan gynnwys TMX a TBX. Mae TBX bellach wedi’i fabwysiadu gan ISO fel ISO 30042.

OASIS
Mae OASIS (Organization for the Advancement of Structured Information Standards) yn sefydliad nad yw er elw sy’n hyrwyddo safonau ar gyfer gwybodaeth strwythuredig. Mae’r consortiwm yn datblygu ac yn mabwysiadu safonau agored ar gyfer y gymdeithas wybodaeth fyd-eang, gan gynhyrchu mwy o safonau gwasanaethau gwe nag unrhyw sefydliad arall, ynghyd â safonau ar gyfer diogelwch ac e-fusnes. Mae hefyd yn gwneud gwaith safoni yn y sector cyhoeddus, ymhlith marchnadoedd eraill. OASIS syd wedi datblygu’r safon XLIFF (XML Localisation Interchange File Format).

W3C
Mae’r W3C yn datblygu ac yn cynnal safonau, canllawiau a manylebau technegol ar gyfer y we fyd-eang, gan gynnwys safonau pwysig fel HTML sy’n sail cyffredin i dudalennau gwe.