Mae’r cwmni technolegau iaith Bitlips wedi rhyddhau’r llais Cymraeg synthetig mwyaf naturiol eto, sef ‘Owen’. Mae’r llais yn seiliedig ar adnoddau project WISPR a ddatblygwyd gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, ond yn defnyddio’r dull Hidden Markov Model yn hytrach na’r dull deuffon a ddefnyddwyd gan y llais a gynhyrchwyd ym Mangor. Mae llais Owen bellach ar gael i’w drwyddedu gan Bitlips at ddefnydd masnachol, a gallwch glywed enghraifft ohonno’n gweithio fel rhan o wasanaeth testun-i-lais ReadSpeaker ar y wefan hon drwy glicio ar y botwm ‘Gwrando’ sydd ar frig yr erthygl.
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein tudalen gysylltu os oes unrhyw gwestiynau gennych am dechnolegau lleferydd neu unrhyw dechnolegau iaith eraill. Gallwch hefyd gofrestru fel aelod o SALT Cymru drwy lenwi’r ffurflen hon.




