Technoleg Iaith a Lleferydd || Speech and Language Technology
19/05/2013
Translate to other Languages

ReadSpeaker yn rhoi llais newydd i wefannau Cymraeg

Gwrando gyda Readspeaker

Mae ReadSpeaker, gwasanaeth gwe gan gwmni VoiceCorp sy’n llefaru’r testun a geir ar wefannau, wedi ychwanegu llais Cymraeg newydd sbon i’r ddarpariaeth o leisiau sydd ar gael ar gyfer gwefannau Cymraeg. Mae’r llais newydd, Owen, a ddatblygwyd gan y cwmni technoleg lleferydd Bitlips gan ddefnyddio adnoddau a grëwyd gan Brifysgol Bangor, yn welliant sylweddol ar y lleisiau Cymraeg sy’n bodoli eisoes, yn arbennig o ran ei naturioldeb a’i eglurder. Ond does dim rhaid i chi ymddiried yn ein gair ni – wedi i SALT Cymru wahodd nifer o gwmnïau sy’n galluogi gwefannau â llais i arddangos eu systemau ar wefan SALT Cymru, cytunodd VoiceCorp i weithredu system ddwyieithog ReadSpeaker ar y wefan hon.

I glywed llais ‘Owen’ Bitlips wedi’i bweru gan ReadSpeaker, cliciwch ar y botwm glas ‘Gwrando’ ar frig yr erthygl ac fe gaiff yr erthygl ei llefaru gan lais Owen (sicrhewch fod eich seinyddion yn gweithio a bod lefel sain eich system wedi’i osod yn addas!). Nodwch fod modd dewis llefaru detholiad llai o destun drwy amlygu’r testun priodol a chlicio ar y botwm chwarae yn rhyngwyneb y rheolydd a ddaw i’r amlwg wedi i chi glicio ar ‘Gwrando’ am y tro cyntaf.

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein tudalen gysylltu os oes unrhyw gwestiynau gennych am dechnolegau lleferydd neu unrhyw dechnolegau iaith eraill. Gallwch hefyd gofrestru fel aelod o SALT Cymru drwy lenwi’r ffurflen hon.

Mae mwy o wybodaeth am Owen, y llais newydd Cymraeg gan Bitlips i’w gael yn yr erthygl hon.