Technoleg Iaith a Lleferydd || Speech and Language Technology
19/05/2013
Translate to other Languages

Adnoddau Lleferydd Cymraeg

Gwrando gyda Readspeaker

Yn 2006, fe gynhyrchodd Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor lais synthetig testun-i-lais ar gyfer y Gymraeg fel rhan o broject WISPR. Rhyddhawyd fersiwn sylfaenol o’r llais hwn, ynghyd ag adnoddau datblygu, o dan drwydded rydd BSD. Dewiswyd y drwydded hon yn fwriadol er mwyn galluogi cwmnïau masnachol i ddatblygu a masnacheiddio eu cynnyrch eu hunain yn seiliedig ar yr adnoddau hyn.

Bu’r strategaeth hon yn llwyddiannus, ac erbyn hyn mae sawl cwmni masnachol wrthi’n datblygu lleisiau Cymraeg yn seiliedig i raddau gwahanol ar yr adnoddau hyn. Er mwyn cyfrannu’n bellach at y gwaith hwn, mae Prifysgol Bangor wedi penderfynu rhyddhau gwelliannau i reolau’r llais Cymraeg o dan drwydded rydd BSD i aelodau SALT Cymru.

Mae’r rheolau hyn (a oedd gynt yn rhan o becyn masnachol a oedd yn cael ei gynnig gan y Brifysgol) yn cynnwys rheolau tocyneiddio a rhestr o eiriau (ynghyd â’u rhannau ymadrodd a’u hynganiad) lle nad yw eu hynganiad yn gyson a’u ffurf ysgrifenedig.

Gallwch lwytho’r adnoddau i lawr yma:

Mae gweddill yr erthygl ar gael i aelodau SALTcymru’n unig. Gallwch
Fewngofnodi neu Gofrestru fel aelod o SALTcymru am ddim

The rest of this article is available to SALTcymru members only.
Login or Register as a member of SALTcymru for free

[Guarded by Membership Site Software: Wordpress Membership Site Plugin - MemberWing - membership site plugin]
[Supported by: VGA Capture Cards and VGA Capture Solutions]