Enghreifftiau o SALT
Mae SALT yn rhan gynyddol o’n bywyd bob dydd.
Dyma rai enghreifftiau:
- Gwirwyr sillafu a gramadeg
- Deialu llais ar eich ffôn symudol
- Radio car sy’n cael ei weithredu gan eich llais
- Rhaglenni canfod llên-ladrad
- Gwefannau a phrosesyddion geiriau sydd wedi’i galluogi â llais ar gyfer rhai â nam ar eu golwg
- Gwefannau gyda geirfâu rhyngweithiol ar gyfer helpu dysgwyr
- Meddalwedd sy’n sganio ac yn trosi dogfennau wedi’u argraffu yn ffeiliau prosesydd geiriau
- Meddalwedd sy’n echdynnu’r holl derminoleg arbenigol o ddogfen
- Gwefannau sy’n cynnig bras-gyfieithiadau o destun o un iaith i’r llall
- Dyfeisiau llaw sy’n adnabod llawysgrifen y defnyddiwr
- Meddalwedd sy’n galluogi bobl â nam ar eu lleferydd i gyfathrebu gan ddefnyddio llais cyfrifiadurol
- Gwasanaethau bwcio awtomatig dros y ffôn gyda adnabod lleferydd syml
- Camerâu sy’n tynnu lluniau’n awtomatig pan mae’r gwrthrych yn gwenu
- Thesawrysau gweledol
Caiff SALT hefyd ei ddefnyddio’n helaeth ar ffurf arfau ymchwil a datblygu wrth ddatblygu'r cynnyrch uchod.