Adroddiad SALT Cymru
Mae project SALT Cymru bellach wedi'i gwblhau. Gallwch lwytho'r adroddiad llawn i lawr drwy glicio ar y cyswllt canlynol:
Adroddiad Llawn SALT Cymru (Fersiwn Cymraeg i ddod)
Gellir darllen y Crynodeb Gweithredol isod.
Crynodeb Gweithredol SALT Cymru
Mae’r ddogfen hon yn disgrifio gwaith project SALT Cymru (Technolegau Iaith a Lleferydd Cymru) a'r argymhellion allweddol ar sefydlu Grŵp Diddordeb Arbenigol yng Nghymru. Ariannwyd SALT Cymru gan Raglen Trosglwyddo Gwybodaeth KEF, cyfeirnod HE 06 KEP 1002.
Diffiniad o SALT
SALT (technolegau iaith a lleferydd) yw cynnwys iaith ddynol mewn meddalwedd ar gyfer prosesu testun, lleferydd a gwybodaeth. Mae’n cynnwys y meysydd canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt: technoleg lleferydd; mewnbwn iaith ysgrifenedig; dadansoddi, deall a chyfieithu iaith; prosesu dogfennau'n awtomatig; cyfieithu peirianyddol; amlfoddolrwydd; adnoddau iaith electronig a gwerthuso SALT.
Pwysigrwydd Economaidd sector SALT drwy’r byd
Mae’r project yn dangos bod defnyddio SALT yn cynyddu maint gwasanaethau, yn lleihau costau ac yn ychwanegu at nifer yr ieithoedd sy’n cael eu cynnal gan SALT. Mae SALT yn sector bwysig yn yr economi: Amcangyfrifir y bydd y farchnad fyd-eang mewn defnyddio technoleg iaith yn unig yn werth $3.2 biliwn erbyn 2010. Yn 2005 cynhyrchodd y farchnad gyfieithu, yn arbennig lleoleiddio meddalwedd a gwefannau amlieithog, $8.8 mewn enillion drwy’r byd. Mae gan 4 o’r 20 prif gwmnïau rhyngwladol eu pencadlys yn Llundain, Gogledd Lloegr ac Iwerddon, gan gyflogi dros 2300 o bobl.
Y potensial ar gyfer datblygu’r sector SALT yng Nghymru
Mae’r project wedi darganfod cryn archwaeth ar gyfer Technolegau Iaith a Lleferydd (SALT) o fewn Cymru, o du defnyddwyr a hefyd ymhlith cwmnïau bach a chanolig eu maint sydd ar hyn o bryd yn eu datblygu neu sydd â diddordeb mewn gwneud hynny yn y dyfodol. Mae’n dod i’r casgliad bod angen buddsoddi, adeiladu’r sylfaen wybodaeth, a chynyddu ymwybyddiaeth oll er mwyn i’r sector hon o’r economi fanteisio’n llawn ar safle freintiedig Cymru fel cenedl ddwyieithog a thyfu i gyflawni ei photensial a manteisio ar farchnadoedd ledled y byd. Mae’n amlinellu fframwaith grŵp diddordeb arbenigol i feithrin twf o’r fath.
Sylfaen gwybodaeth SALT yng Nghymru
O ran of datblygu SALT yng Nghymru, mae’r sylfaen gwybodaeth ar hyn o bryd yn gymharol fychan. Yr amcangyfrif, felly, yw bod llai na deg academydd amser llawn, neu gyfwerth, yn gweithio ar SALT yng Nghymru. Tua hanner y rhain sydd wedi cael contract parhaol i wneud hynny. Fodd bynnag, ceir hefyd swm sylweddol o waith datblygu cysylltiedig â SALT o fewn academia a diwydiant Cymru, lle mae nifer o ddatblygwyr a chwmnïau yn defnyddio nodweddion sy’n gysylltiedig â SALT ynghyd â thechnolegau eraill. Ymhlith y pwyntiau datblygu allweddol mae twf amlieithrwydd ac amlfoddolrwydd mewn systemau mwy cymhleth a ffyrdd newydd o ryngweithio gyda chyfrifiaduron.
Arolwg ar-lein SALT Cymru
Er mwyn archwilio i weld pa feysydd o fewn SALT fyddai’n ennyn y mwyaf o ddiddordeb o du cwmnïau bach a chanolig eu maint, petaent yn cael eu datblygu ymhellach, lluniwyd arolwg ar-lein, a fyddai’n addas ar gyfer defnyddwyr, datblygwyr a darpar ddatblygwyr. Cymerodd 48 o gyfranogwyr ran yn yr arolwg, canlyniad uwch na’r disgwyl. O’r rhain, dywedodd 44 yr hoffent gael cyswllt pellach i sefydlu grŵp diddordeb arbenigol mewn SALT yng Nghymru. Rhoddodd canlyniadau’r arolwg ddealltwriaeth werthfawr i ni o'r SALT sy'n cael eu datblygu yng Nghymru, gyda'r rhan fwyaf o fathau o SALT yn cael eu cynrychioli, heb fod un math arbennig o SALT yn fwy blaenllaw na’r lleill ym maes ymchwil. Enwyd materion yn ymwneud â hygyrchedd ac anghenion ieithyddol gwlad ddwyieithog, yr angen i wella rhyngwynebau rhwng defnyddwyr a gwrthrychau neu wybodaeth, ac adnabod beth sydd yn wybodaeth berthnasol i’r defnyddiwr, a chategoreiddio gwybodaeth mewn ffordd synhwyrol fel meysydd ymchwil perthnasol.
Cyfweliadau ac ymchwiliadau pellach
Cynhaliwyd cyfweliadau gydag unigolion mewn labordai sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ac sydd yn flaenllaw yn y maes. Mae’r cyfweliadau hyn yn adlewyrchu natur eang maes SALT. Ymhlith y canfyddiadau allweddol roedd pwysigrwydd amlfoddolrwydd i ddatblygiadau’r dyfodol, a’r angen i feithrin sylfaen gwybodaeth o’r dechrau, h.y. mewn ysgolion yn ogystal â phrifysgolion. Er mwyn ymchwilio ymhellach i’r datblygiadau mwyaf blaengar yn y maes, mynychwyd cynhadledd ryngwladol flynyddol LangTech, a rhoddodd hyn drosolwg gyffredinol i ni o amrediad eang o dechnolegau SALT mewn cyd-destunau ymchwil a masnachol. Rhoddodd grŵp ffocws gyda cyfieithwyr proffesiynol gyfleoedd pellach i edrych ar anghenion grŵp pwysig o ddefnyddwyr SALT a’u hanghenion a’u blaenoriaethau penodol hwy.
Cydrannau allweddol SALT
Gan gymryd canlyniadau’r arolwg, archwiliwyd pum cydran allweddol o SALT. Er mwyn datblygu’r cydrannau SALT hyn, cynigir model ar gyfer datblygu mewn amgylchedd sydd ddim yn un cymorth gwladol. Golyga hydd ddefnyddio llawer ar drwyddedau meddalwedd rhydd, sef y math o drwydded sydd gan pob un o’r pum fframwaith meddalwedd rhydd ar hyn o bryd. Golyga natur trwyddedau meddalwedd rhydd hael nad oes yn rhaid wedyn rhyddhau unrhyw god ffynhonnell masnachol werthfawr ar gyfer unrhyw gynhyrchion terfynol.
Argymhellion a chylch gorchwyl yr adroddiad
Mae’r adroddiad hwn yn argymell:
1. Sefydlu grŵp diddordeb arbenigol (GDA) SALT Cymru.
Bydd hwn yn cydlynu a goleuo datblygiad y sector yng Nghymru ac yn cydgysylltu rhwng y byd academaidd a diwydiant, a rhwng datblygwyr a defnyddwyr y dechnoleg.
2. Bydd gan y GDA friff gwylio rhyngwladol ar gyfer SALT.
Daw hyn â’r ymarfer rhyngwladol gorau i Gymru a bydd yn hybu buddiannau Cymru ledled y byd.
3. Bydd y GDA yn gweithio i gryfhau’r sylfaen ymchwil yng Nghymru.
Bydd yn galluogi ac yn cydlynu ceisiadau am arian, yn gwella rhwydweithio ac yn gweithio tuag at greu canolfan ragoriaeth mewn SALT yng Nghymru.
4. Bydd y GDA yn creu rhaglen o flaenoriaethau ar gyfer datblygu cist offer o adnoddau iaith sylfaenol.
Caiff yr offer hyn ei darparu ar gyfer eu llwytho i lawr gan ddatblygwyr meddalwedd yng Nghymru.
5. Bydd y GDA yn cynnal ac yn datblygu ymhellach gwefan SALT Cymru i gynnwys porth adnoddau.
Bydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer rhith gyfarfodydd, newyddlen ar-lein, a manylion o ddigwyddiadau o ddiddordeb i’w aelodau.
6. Bydd y GDA yn rhoi arweiniad i raglen addysg a hyfforddiant SALT yng Nghymru.
Bydd hyn yn darparu llwybr clir o’r ysgol drwy Sefydliadau Addysg Uwch i ddiwydiant. Bydd adnoddau sydd eisoes yn bod yn cael eu defnyddio i’r eithaf, gan gynnwys rhaglenni presennol megis partneriaethau KTP.
7. Bydd y GDA yn ateb anghenion ei aelodau ei hun am hyfforddiant a chyfathrebu.
Bydd felly yn cynllunio rhaglen o seminarau rheolaidd a chynhadledd ryngwladol flynyddol, ac yn defnyddio digwyddiadau a sianeli sydd eisoes yn bod i hybu ei weithgareddau.
8. Bydd y GDA yn ateb anghenion gwerthuso a rheoli ansawdd ar gyfer datblygwyr SALT. Bydd yn llunio argymhellion ar gyfer trefn achredu a chymhwyso safonau diwydiannol ar gyfer y diwydiant yng Nghymru.
9. Bydd y GDA yn chwilio am ariannu digonol i’w alluogi i gyflawni ei gylch gorchwyl.
Bydd yn mynd at Lywodraeth Cynulliad Cymru i osod GDA SALT ar sylfaen gadarn i weithredu’n effeithiol.
Adroddiad Llawn SALT Cymru
Cliciwch yma i lwytho'r adrodd llawn i lawr:
