Croeso i wefan SALT Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd gyhoeddi grant o £119,944 dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn sefydlu SALT Cymru i fod yn grŵp diddordeb arbennig ym maes Technolegau Llais a Lleferydd (Speech and Language Technologies). Cydlynwyr y grŵp yw Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Daw'r arian o raglen Arbenigedd Academaidd ar gyfer Busnes (A4B) y Cynulliad. Y bwriad yw dod ag ymchwilwyr academaidd a diwydiant at ei gilydd er mwyn rhannu gwybodaeth a hybu ymchwil a datblygu yn y maes.
Bydd y wefan hon yn datblygu fel porth at holl weithgareddau'r grwp, gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau rhwydweithio, seminarau a chynadleddau.
Mae'r project hwn yn dilyn adroddiad ar gyflwr presennol SALT yng Nghymru a luniwyd er mwyn goleuo polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at SALT yn y dyfodol. Mae'r adroddiad a'r crynodeb gweithredol i'w cael drwy ddilyn y cyswllt Adroddiad SALT Cymru ar y chwith.
Mae sleidiau o gyflwyniad a roddwyd ar yr adroddiad yn ITWales i'w cael yma.
Os ydych chi’n ymchwilio i mewn i, yn datblygu, neu’n defnyddio SALT, fe hoffwn ni glywed gennych chi.
Gellwch gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy'r ddolen Cysylltu ar y chwith.
Cofiwch, dyma’ch cyfle chi i ddylanwadu ar ddatblygiad y sector Technoleg Lleferydd ac Iaith yng Nghymru.
Mae gen i ddiddordeb ym mhroject SALT Cymru: